Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 142(3)(b)(ii) o Ddeddf Tai (Cymru) 2014, i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

2019 Rhif (Cy.  )

TAI, CYMRU

Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2019

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio darpariaethau Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) 2014 (O.S. 2014/2603 (Cy. 257)) (“Rheoliadau 2014”), sy’n rhagnodi’r dosbarthiadau o bersonau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo sy’n bersonau sy’n gymwys i gael cymorth tai o dan adrannau 66, 68, 73 a 75 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (2014 dccc 7), yn ogystal â’r dosbarthiadau o bersonau o dramor, nad ydynt yn ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo, sy’n anghymwys i gael cymorth tai o dan y Ddeddf honno. At y dibenion hyn, mae i “personau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo” yr un ystyr ag a roddir i “person subject to immigration control” yn adran 13(2) o Ddeddf Lloches a Mewnfudo 1996 (p. 49).

Mae rheoliad 5 o Reoliadau 2014 yn rhagnodi dosbarthiadau o bersonau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo sy’n gymwys i gael cymorth tai. Mae rheoliad 2(2) yn diwygio’r ddarpariaeth honno drwy ychwanegu dau ddosbarth pellach o bersonau at y rhestr honno, sef y rhai sy’n dod o dan adran 67 o Ddeddf Mewnfudo 2016 (p. 19) ac sydd naill ai â chaniatâd cyfyngedig i aros o dan baragraff 352ZH o’r rheolau mewnfudo neu ganiatâd Calais i aros o dan baragraff 352J o’r rheolau mewnfudo (a osodwyd gerbron Senedd y DU ar 23 Mai 1994 (HC 395)) (“y rheolau mewnfudo”).

O dan reoliad 6 o Reoliadau 2014, mae person nad yw’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo yn anghymwys i gael cymorth tai pan na fo’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw, neu Weriniaeth Iwerddon neu pan fo ei unig hawl i breswylio yn y mannau hynny—

(a)     fel “ceisiwr gwaith” AEE neu fel “aelod o deulu” ceisiwr gwaith AEE;

(b)     yn hawl cychwynnol i breswylio am gyfnod nad yw’n hwy na thri mis o dan Reoliadau Mewnfudo (Ardal Economaidd Ewropeaidd) 2016 (O.S. 2016/1052) (“Rheoliadau AEE 2016”);

(c)     oherwydd ei fod yn berson nad yw’n wladolyn AEE sy’n brif ofalwr dibynnydd AEE o dan Reoliadau AEE 2016.

Mae rheoliad 2(3) yn diwygio’r ddarpariaeth honno. Effaith y diwygiad yw cynnal y status quo, felly pan roddir caniatâd cyfyngedig i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi yn unol ag Atodiad EU i’r rheolau mewnfudo i bersonau sydd hefyd â hawl i breswylio o’r math a grybwyllir uchod, nid yw hynny yn effeithio ar eu cymhwystra.

Mae Rheoliadau 2014 yn cyfeirio at Reoliadau Mewnfudo (Ardal Economaidd Ewropeaidd) 2006 (O.S. 2006/1003) (“Rheoliadau AEE 2006”). Gan fod Rheoliadau AEE 2006 wedi eu dirymu gan Reoliadau AEE 2016, effaith paragraff 1 o Atodlen 7 i Reoliadau AEE 2016 yw bod cyfeiriadau at Reoliadau AEE 2006 yn Rheoliadau 2014 i’w darllen fel cyfeiriadau at ddarpariaethau cyfatebol Rheoliadau AEE 2016.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.


 

Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 142(3)(b)(ii) o Ddeddf Tai (Cymru) 2014, i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

2019 Rhif (Cy.  )

tai, cymru

Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2019

Gwnaed                                                 ***

Yn dod i rym                                           ***

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan baragraff 1(2) a (4) o Atodlen 2 i Ddeddf Tai (Cymru) 2014([1]).

Yn unol ag adran 142(3)(b) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.

Enwi a chychwyn

1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2019 a deuant i rym ar XX.

Diwygio Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) 2014

2.(1) Mae Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) 2014([2]) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn rheoliad 5 (personau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo sy’n gymwys i gael cymorth tai)—

(a)     ar ddiwedd paragraff (f), hepgorer “ac”;

(b)     ar ddiwedd paragraff (g) yn lle “.” rhodder “; ac”;

(c)     ar ôl paragraff (g) mewnosoder—

(h) Dosbarth H – person sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon ac a adleolwyd i’r Deyrnas Unedig o dan adran 67 o Ddeddf Mewnfudo 2016 ac sydd â chaniatâd cyfyngedig i aros o dan baragraff 352ZH o’r rheolau mewnfudo; ac

(i)   Dosbarth I – person sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon ac sydd â chaniatâd Calais i aros o dan baragraff 352J o’r rheolau mewnfudo.

(3) Yn rheoliad 6 (personau eraill o dramor sy’n anghymwys i gael cymorth tai) ar ôl paragraff (1) mewnosoder—

“(1A) At ddibenion penderfynu pa un a yw’r unig hawl i breswylio sydd gan berson yn un o fath a grybwyllir ym mharagraff (1)(b) ac (c), mae hawl i breswylio yn rhinwedd y rhoddwyd caniatâd cyfyngedig i berson i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi o dan Ddeddf Mewnfudo 1971([3]) yn rhinwedd Atodiad EU i’r rheolau mewnfudo([4]) a wnaed o dan adran 3 o’r Ddeddf honno i’w ddiystyru.”

Darpariaethau trosiannol

3. Nid yw’r diwygiadau a wnaed gan reoliad 2(3) yn cael effaith mewn perthynas â chais i gael cymorth tai a wnaed o dan adrannau 66, 68, 73 a 75 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 a wnaed cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym.

 

 

 

Enw

Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

Dyddiad



([1])           2014 dccc 7.

([2])           O.S. 2014/2603 (Cy. 257). 

 

([3])           1971 p. 77. Nid yw’r diwygiadau i adran 3 yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

([4])           Gosodwyd gerbron Senedd y DU ar 23 Mai 1994 (HC 395), fel y’u diwygiwyd. Gosodwyd Atodiad EU gerbron Senedd y DU ar 20 Gorffennaf 2018 (CM 9675).